Gosodiad Celf Mae Pretty Little Things yn archwilio byd ymchwil feddygol a'r ddelweddaeth gywrain a welir o dan y microsgop, gan ail-ddehongli'r rhain i batrymau haniaethol modern trwy ffrwydradau palet lliw fluro bywiog. Dros 250 metr o hyd, gyda dros 40 o weithiau celf unigol mae'n osodiad ar raddfa fawr sy'n cyflwyno harddwch ymchwil i lygad y cyhoedd.