Gosodiad Celf Mae Light Origami yn osodiad celf rhyngweithiol unigryw. Gwahoddir gwylwyr i archwilio natur realiti drwy fynd i mewn i galeidosgop 3D enfawr. Mae'r strwythur crwm yn ymdrochi mewn golau ac wedi'i adeiladu gan ddefnyddio dros 330 o baneli drych. Caiff sbectra golau sy'n newid eu taflunio o fewn y gofod, a phan gânt eu hadlewyrchu yn erbyn y paneli drych, mae'r effaith fel bod y tu mewn i galeidosgop. Mae'r gofod mewnol yn ymestyn yn dragwyddol heb ffin i'r gofod. Mae Light Origami yn creu profiad aml-ddimensiwn sy'n archwilio'r berthynas rhwng y cyfranogwr a'r gofod, rhwng adlewyrchiad a golau.